Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Sioe newydd yn cyflwyno chwedlau’r Mabinogi i ddysgwyr

Sioe newydd yn cyflwyno chwedlau’r Mabinogi i ddysgwyr

Mae cynhyrchiad theatr newydd sy’n cyflwyno Pedair Cainc y Mabinogi i ddysgwyr y Gymraeg ar daith o gwmpas Cymru.  

Mae’r sioe, o’r enw ‘Trafferth’, wedi’i chynhyrchu gan gwmni theatr ‘Mewn Cymeriad’ a’i chomisiynu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Mae’n cyflwyno’r chwedlau mewn ffordd fywiog ac mewn iaith gyfarwydd i ddysgwyr.

Caiff ‘Trafferth’ ei pherfformio gan yr actor a’r cyflwynydd, Tudur Phillips; y Prifardd a chyn Fardd Plant Cymru, Aneirin Karadog, sydd wedi ysgrifennu’r sgript.  

Mae’r cynhyrchiad yn cyflwyno cymeriadau lliwgar a diddorol y Pedair Cainc, o Pwyll a Rhiannon i Branwen a Blodeuwedd.  Yn y sioe, mae Tudur yn chwarae’r bardd Dafydd ap Gwilym a chawn glywed ychydig o’i hanes a’i gerddi ef, wrth iddo adrodd a chyflwyno’r hanes.

Eglura Aneirin Karadog, “Yn ystod y sioe ry’n ni’n dilyn taith Dafydd ap Gwilym o Geredigion i Fasaleg yng Ngwent.  Mae’n seiliedig ar ddigwyddiadau go iawn, sef y ffaith bod Dafydd wedi gorfod ffoi o Geredigion oherwydd bod ei ymddygiad gwael gyda gwragedd Llanbadarn a’r cyffiniau wedi mynd mor ddifriol!

“Rwy’n gobeithio y bydd y sioe yma, nid yn unig yn cynnig cyfle i ddysgwyr gael mwynhad a chwerthin drwy gyfrwng yr iaith, ond hefyd, y byddan nhw yn cael eu hysbrydoli i fynd ati i ddarganfod mwy am farddoniaeth a llenyddiaeth.”

Mae Mewn Cymeriad yn arbenigo ar gynhyrchu sioeau un-person yn seiliedig ar gymeriadau enwog mewn hanes, sy’n cael eu perfformio mewn ysgolion cynradd ar draws Cymru.  Y llynedd, cafodd y sioe gyntaf a grëwyd yn arbennig ar gyfer dysgwyr, ‘Taith yr Iaith’, oedd yn adrodd hanes y Gymraeg ar hyd y canrifoedd, ymateb ardderchog.

Meddai Eleri Twynog Davies, sylfaenydd a chyfarwyddwraig Mewn Cymeriad:

"Mae’r bartneriaeth gyda’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi ein galluogi i gynnig sioe sy’n berthnasol, yn ddiddorol, ac yn addas i ddysgwyr.  Mae’n gyfle i gyflwyno llenyddiaeth iddyn nhw mewn ffordd ysgfan, bywiog a doniol, ac mae digon o gyfleon i fod yn rhan o’r perfformiad hefyd!”

Ychwanega Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

"Mae dod â hanes a diwylliant Cymru yn fyw i gynulleidfaoedd sy’n dysgu Cymraeg yn bwysig tu hwnt i ni, yn ogystal â rhoi cyfleoedd i’n dysgwyr ymarfer a mwynhau’r Gymraeg y tu allan i’r ystafell ddosbarth.

“’Dyn ni’n edrych ymlaen at fedru croesawu dysgwyr o bob cwr o Gymru i fwynhau’r sioe newydd hon.”