Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Wythnos o ddathlu ar BBC Radio Cymru

Wythnos o ddathlu ar BBC Radio Cymru

Rhwng 15-22 Hydref, mae wythnos arbennig ar gyfer dysgwyr a siaradwyr Cymraeg newydd ar BBC Radio Cymru, yr ‘Wythnos Dathlu Dysgu Cymraeg’.

Dyma’r pumed tro i’r BBC a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol gydweithio i drefnu’r wythnos, sy’n boblogaidd iawn.

Dyma rai o’r uchafbwyntiau:

  • Joe Healy, Dysgwr y Flwyddyn Eisteddfod Genedlaethol 2022, fydd yn gwneud podlediad ‘Pigion yr Wythnos’. Bydd Joe yn dewis ei hoff eitemau o raglenni BBC Radio Cymru o’r wythnos flaenorol.  Bydd y podlediad ar gael o 17 Hydref ymlaen.
  • Mae cyfle i ddod i adnabod rhai o gyflwynwyr BBC Radio Cymru yn well mewn sesiwn cwestiwn ac ateb. Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu y Ganolfan, Helen Prosser, fydd yn holi tri o’r cyflwynwyr, Mirain Iwerydd, Bethan Rhys Roberts ac Iwan Griffiths.  Bydd y digwyddiad rhad ac am ddim ar Zoom, a gallwch gofrestru yma.
  • Mae’r awdures Jane Blank yn wreiddiol o Loegr, ond mae hi nawr yn byw yng Ngheredigion ac mae wedi dysgu Cymraeg. Mewn rhaglen arbennig o’r enw ‘Fy Achau Cymraeg’, bydd Jane yn edrych ar hanes ei theulu yng Nghymru.  Bydd ei hanes wedi ei rannu mewn dwy raglen – y gyntaf ar 8 Hydref a’r ail ar 15 Hydref.
  • Ac yn westai ar raglen sgwrsio Beti a’i Phobl ddydd Sul, 22 Hydref, bydd y tiwtor, Felicity Roberts. Mae Felicity wedi dysgu Cymraeg i gannoedd o bobl dros y 50 mlynedd diwethaf.  Yn y rhaglen, mi fydd hi’n rhannu hanes ei bywyd gyda Beti George.

Yn ogystal â’r uchod, mi fydd Rhaglen Al Hughes (9.00–11.00am Llun-Iau), Bore Cothi (11.00am–1.00pm), Ifan Evans (3.00-5.00pm), Trystan ac Emma (9.00–11.00am dydd Gwener) a Caryl Parry Jones (9.00pm-12.00am Llun-Iau) yn sgwrsio gyda siaradwyr Cymraeg newydd trwy gydol yr wythnos.

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol:

“Mae’n wych fod BBC Radio Cymru a’r Ganolfan yn gallu cydweithio ar yr wythnos arbennig yma, i ddathlu ein dysgwyr Cymraeg a thynnu sylw at yr holl raglenni sydd ar gael i’w mwynhau.  Bydd lleisiau ein dysgwyr a siaradwyr newydd i’w clywed ar draws yr amserlen – mae pawb yn edrych ymlaen!”

Llun: Y cyflwynydd Mirain Iwerdydd, fydd yn cael ei holi yn y sesiwn rithiol ar 16 Hydref.