Diolch i’r berthynas a’r cydweithrediad rhwng Undeb Rygbi Cymru (URC) a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, mae’n haws nag erioed i ddysgu a mwynhau'r iaith Gymraeg drwy thema rygbi.
Rydym wedi creu dau gwrs blasu rhad ac am ddim a rhai adnoddau ychwanegol fel y gallwch chi ddysgu ar-lein yn eich amser eich hun, ar eich cyflymder eich hun. Cymerwch olwg ar y cyrsiau isod i gael rhagor o wybodaeth ac i gael dechrau arni.
Ein tîm, ein hiaith - ewch amdani!