Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Undeb Rygbi Cymru

Dysgu Cymraeg drwy rygbi
Croeso

Diolch i’r berthynas a’r cydweithrediad rhwng Undeb Rygbi Cymru (URC) a’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Cenedlaethol, mae’n haws nag erioed i ddysgu a mwynhau'r iaith Gymraeg drwy thema rygbi.  

Rydym wedi creu dau gwrs blasu rhad ac am ddim a rhai adnoddau ychwanegol fel y gallwch chi ddysgu ar-lein yn eich amser eich hun, ar eich cyflymder eich hun. Cymerwch olwg ar y cyrsiau isod i gael rhagor o wybodaeth ac i gael dechrau arni. 

Ein tîm, ein hiaith - ewch amdani!

Cwrs blasu - Cefnogwyr a Chwaraewyr

Mae’r cwrs blasu yma wedi ei deilwra ar gyfer Cefnogwyr a Chwaraewyr. Mae’r cwrs wedi ei rannu yn ddwy ran. Mae’r rhan gyntaf yn cynnwys unedau 1 i 5, ac mae’r ail ran yn cynnwys unedau 6 i 10.  Mae’r ddwy ran yn cymryd tua 3-4 awr i’w cwblhau, ac fe allwch chi ddod yn ôl i’r cwrs ar unrhyw bryd i ail-gydio lle wnaethoch chi orffen o’r blaen neu i ymarfer eto. Yn ystod y cwrs, bydd cyfle i chi ymgyfarwyddo ag ymadroddion a thermau rygbi fydd o gymorth i chi mewn cyd-destun rygbi ac yn eich bywyd bob dydd. 

Cwrs blasu – Rheolwyr a Gweithwyr

Mae’r cwrs blasu yma wedi ei deilwra ar gyfer Rheolwyr a Gweithwyr sefydliadau rygbi yng Nghymru. Mae’r cwrs yma yn gyfyngedig – er mwyn cael mynediad i’r cwrs, mae’n rhaid i chi gofrestru gyda chynllun Cymraeg Gwaith a meddu ar gôd cyflogwr dilys. Mae’r cwrs wedi ei rannu yn ddwy ran. Mae’r rhan gyntaf yn cynnwys unedau 1 i 5, ac mae’r ail ran yn cynnwys unedau 6 i 10.  Mae’r ddwy ran yn cymryd tua 3-4 awr i’w cwblhau, ac fe allwch chi ddod yn ôl i’r cwrs ar unrhyw bryd i ail-gydio lle wnaethoch chi orffen o’r blaen neu i ymarfer eto. Yn ystod y cwrs, bydd cyfle i chi ymgyfarwyddo ag ymadroddion a thermau rygbi fydd o gymorth i chi mewn cyd-destun rygbi ac yn eich bywyd bob dydd.