Darparwyr lleol
Mae'r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn gweithio gydag 11 o ddarparwyr cyrsiau ledled Cymru. Cliciwch ar y dolenni isod i ddod o hyd i gwrs neu weithgareddau Dysgu Cymraeg yn eich ardal chi.
Mae Dysgu Cymraeg Caerdydd yn darparu cyrsiau yn y brifddinas. |
Mae Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe yn darparu cyrsiau yn Abertawe, Port Talbot a Chastell Nedd. |
Mae Dysgu Cymraeg Y Fro yn darparu cyrsiau ym Mro Morgannwg. |
Mae Dysgu Cymraeg Morgannwg yn darparu cyrsiau yn Merthyr Tydfil, Rhondda Cynon Taf a Phen-y-Bont ar Ogwr. |
Mae Dysgu Cymraeg Gwent yn darparu cyrsiau yng Nghaerffili, Torfaen, Blaenau Gwent, Casnewydd a Sir Fynwy. |
Mae Dysgu Cymraeg Sir Benfro yn darparu cyrsiau yn Sir Benfro. |
Mae Dysgu Cymraeg Sir Gâr yn darparu cyrsiau yn Sir Gaerfyrddin. |
Mae Dysgu Cymraeg Ceredigion - Powys - Sir Gâr yn darparu cyrsiau yn y canolbarth a Sir Gaerfyrddin. |
Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin yn darparu cyrsiau yng Ngwynedd, Môn a Chonwy. |
Mae Dysgu Cymraeg Gogledd Ddwyrain yn darparu cyrsiau yn Sir y Fflint, Sir Ddinbych a Wrecsam. |
Mae Dysgu Cymraeg Nant Gwrtheyrn yn darparu cyrsiau preswyl yn 'y Nant', canolfan arbennig ym Mhen Llŷn. |