Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gofal Cymdeithasol Cymru: Lefelau Iaith

Croeso!

Croeso i dudalen Gwirio Lefel i weithlu Gofal Cymdeithasol Cymru. Pwrpas y dudalen hon ydy casglu gwybodaeth am eich sgiliau Cymraeg chi. 

Yn gyntaf, gwyliwch y clipiau fideo er mwyn deall mwy am y lefelau iaith. 

Yn ail, cwblhewch yr holiadur, er mwyn rhoi gwybod i ni beth yw eich lefel iaith ar gyfer y bedair sgil iaith - Siarad, Darllen, Gwrando, ac Ysgrifennu.

 

 

Gofal Cymdeithasol Cymru

Lefel Mynediad

 

Cyrsiau Lefel Mynediad: Cyrsiau ar gyfer dechreuwyr; bydd cyfle i ddysgu siarad am bynciau pob dydd fel eich gwaith, y teulu, ffrindiau, a diddordebau. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith mewn cyd-destunau syml, bob dydd yn y gweithle.

Lefel Sylfaen

 

Cyrsiau Lefel Sylfaen: Cyrsiau sy'n dysgu patrymau sylfaenol y Gymraeg. Mae’r prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau pob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau.

Lefel Canolradd

 

Cyrsiau Lefel Canolradd: Cyrsiau sy'n datblygu sgiliau Cymraeg gyda'r nod o feithrin siaradwyr hyderus wrth drafod materion pob dydd. Mae cyfle i ddatblygu sgiliau sgwrsio, gydag ychydig mwy o waith ysgrifennu, darllen a gwrando.

Lefel Uwch

 

Cyrsiau Lefel Uwch: Mae'r cyrsiau hyn yn gyfle i ymarfer trafod pynciau a themâu o bob math. Bydd dysgwyr hefyd yn datblygu eu sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando. Meithrin siaradwyr hyderus yw’r prif nod.

Lefel Hyfedredd

Cyrsiau Lefel Hyfedredd: Mae'r lefel yma ar gyfer dysgwyr profiadol a siaradwyr Cymraeg sy eisiau magu hyder i ddefnyddio a mwynhau eu sgiliau iaith. Bydd y cwrs yn cael ei deilwra ar gyfer anghenion y dosbarth.

Holiadur Sgiliau Iaith

Mae'r holiadur hwn yn arbennig ar gyfer gweithlu Gofal Cymdeithasol Cymraeg. Mae'n gofyn i chi ateb cwestiynau ynghylch pa lefel cyrsiau dych chi'n meddwl sydd orau i chi yn y bedair sgìl iaith: Siarad, Darllen, Ysgrifennu, a Gwrando. 

Gwiriwr Lefel

Gallwch ddefnyddio teclyn Y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, y Gwiriwr Lefel, er mwyn darganfod eich lefel. 

Mae'r Gwiriwr Lefel Dysgu Cymraeg yn rhoi dangosydd i chi o lefel eich Cymraeg yn y bedair sgìl iaith: Gwrando, Siarad, Darllen, ac Ysgrifennu.

Bydd canlyniadau'r adrannau Gwrando a Darllen ar gael yn syth. Rhaid i'r ddwy adran arall, sef Siarad ac Ysgrifennu, gael eu marcio gan berson, a bydd y canlyniadau ar gael yn fuan wedi hynny. Ar hyn o bryd, dim ond canlyniadau yr adrannau Gwrando a Darllen fydd ar gael i chi.

Er mwyn defnyddio'r Gwiriwr bydd angen cyfrif ar y safle hon. Os nad oes cyfri gyda chi eisoes, gallwch greu cyfri yn hawdd ar y dudalen hon.

Mae cyfarwyddiadau defnyddio'r Gwiriwr Lefel ar gael ar y dudalen hon.