Clwb Cwtsh
Croeso!
Mae Clwb Cwtsh yn bartneriaeth rhwng y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol a Mudiad Meithrin. Gwyliwch y fideo am fwy o wybodaeth.
Mae Clwb Cwtsh yn cyflwyno geiriau ac ymadroddion sy’n berthnasol i fagu plant ifanc ac yn annog dysgwyr i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg gyda’u plant. Mae'r sesiynau yn rhai hwyliog ac ysgafn, ac yn defnyddio canu a gemau. Mae rhai sesiynau Clwb Cwtsh yn cael eu cynnal yn rhithiol ac eraill wyneb-yn-wyneb. Cofrestrwch eich diddordeb yma.

Dewch i gael blas ar sesiynau Clwb Cwtsh i ddysgwyr. Dyma sesiynau byr 5 munud o hyd, wedi’u cyflwyno gan Lowri, cyn-gyflwynydd Cyw. Mae digon o syniadau i chi ar sut i ddefnyddio a mwynhau’r Gymraeg yn y cartref gyda’ch plant. Gwyliwch y clipiau fideo fan hyn!
I ddarganfod mwy am sesiynau Clwb Cwtsh yn eich ardal chi, dyma'r opsiynau i chi:
-
>
-
>
E-bost: clwbcwtsh@meithrin.cymru
-
>
Ffôn: 01970 639639
For me it has been helpful to ... learn some new words and also to be encouraged to use what we learn outside the lessons.
Andy, Acton
