Defnyddio'r Gymraeg
Mae'r mwyafrif o'n cyrsiau Dysgu Cymraeg yn cael eu cynnal mewn dosbarthiadau rhithiol ar hyn o bryd. Cysylltwch â'ch darparwr cyrsiau lleol am fwy o wybodaeth, neu fe allwch ddod o hyd i gwrs fan hyn.
Mae digon o gyfleoedd i chi ymarfer a mwynhau'r Gymraeg yn rhithiol hefyd.
Mae dros 1,500 o adnoddau digidol ar gael ar ein gwefan, i'ch cefnogi, yn ogystal â chyrsiau 'blasu' a gwersi fideo. Mae adnoddau Dysgu Cymraeg gyda'n partneriaid, Duolingo a SaySomethingInWelsh, hefyd.
Mae 'Siarad', y cynllun sy'n paru siaradwyr rhugl gyda dysgwyr lefel Canolradd +, ar gael, gyda'r parau yn defnyddio Skype, Zoom, y ffôn neu ddulliau digidol eraill i gadw mewn cysylltiad.


Gwrando a gwylio
Beth am fwynhau'r Gymraeg trwy wylio rhaglenni Cymraeg S4C neu wrando ar BBC Radio Cymru?
Mae gan BBC Radio Cymru bodlediad wythnosol i ddysgwyr o'r enw ‘Pigion’, sy'n addas ar gyfer dysgwyr lefel Uwch.
Darllen
Beth am ddarllen llyfrau, cylchgronau neu erthyglau Cymraeg? Gallwch ddarllen eitemau newyddion, erthyglau a chyfweliadau ar wefannau BBC Cymru Fyw a Golwg 360. Defnyddiwch y botwm VOCAB i gael cyfieithiadau Saesneg ar wefan y BBC. Mae gwefan parallel.cymru yn cyhoeddi erthyglau Cymraeg a Saesneg diddorol, ochr yn ochr â'i gilydd. Beth am ddarllen y blogiau diddorol ar wefan Amgueddfa Cymru a Llyfrgell Genedlaethol Cymru?

Cyfres o lyfrau ar gyfer dysgwyr ydy Cyfres Amdani! Mae’r llyfrau ar werth yn eich siopau llyfrau Cymraeg lleol neu ar wefan gwales.com.

Cylchgrawn i ddysgwyr ydy Lingo Newydd sy'n cynnwys erthyglau hawdd eu deall, straeon, newyddion am Gymru a rhestrau o eiriau newydd.
