Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Darllen

Eisiau ymarfer eich Cymraeg?

Darllen

Dych chi'n hoffi darllen? Beth am ddarllen er mwyn ymarfer eich Cymraeg...

Dych chi'n gallu darllen cyfres lyfrau Amdani, neu beth am ddod i Ŵyl Ddarllen Amdani?

Dych chi hefyd yn gallu darllen cylchgrawn Hwyl yr Haf a chylchgrawn Hwyl y Nadolig.  Mwynhewch y darllen!

Gŵyl Ddarllen Amdani

Mae’r ŵyl yn dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr, 'Amdani.'

Bydd yr ŵyl yn cael ei chynnal ar-lein rhwng 4 - 8 Mawrth 2024. 

Beth am ymuno â ni?  Dilynwch y botwm isod am fwy o wybodaeth.

Cyfres lyfrau Amdani

Dych chi wedi darllen un o lyfrau Amdani?  Mae tua 40 o lyfrau yn y gyfres erbyn hyn.

Mae’r teitlau wedi’u graddoli ar wahanol lefelau dysgu, o lefel Mynediad i lefel Uwch.

Mae’r gyfres yn cynnwys straeon ditectif, hunangofiannau, nofelau serch, comedi a straeon byrion.

Beth am ddysgu mwy am y gyfres, a dewis llyfr sy'n addas i chi, trwy ddilyn y botwm isod?

Cylchgrawn Hwyl yr Haf

Eisiau ymarfer eich Cymraeg?  Rhowch gynnig ar ddarllen cylchgrawn Hwyl yr Haf. 

Mae ’na erthyglau diddorol i ddysgwyr ar bob lefel, o lefel Mynediad i lefel Uwch.

Dilynwch y botwm isod er mwyn darllen yr un diweddaraf.

Cylchgrawn Hwyl y Nadolig

Eisiau ymarfer eich Cymraeg?  Rhowch gynnig ar ddarllen cylchgrawn Hwyl y Nadolig. 

Mae ’na erthyglau diddorol i ddysgwyr ar bob lefel, o lefel Mynediad i lefel Uwch.

Dilynwch y botwm isod er mwyn darllen yr un diweddaraf.