Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Gŵyl Ddarllen Amdani 2022

Croeso i dudalen Gŵyl Ddarllen Amdani 2022, a gafodd ei chynnal yn rhithiol rhwng 28 Chwefror a 4 Mawrth 2022. Cafodd llawer o ddigwyddiadau a gweithgareddau cyffrous eu trefnu a dych chi’n gallu mwynhau pigion yr ŵyl ar y dudalen yma.  Diolch yn fawr i bawb am ymuno gyda ni.

Mae’r ŵyl yn dathlu’r gyfres o lyfrau i ddysgwyr, 'Amdani', sy’n cynnwys teitlau gwahanol, o hunan-gofiannau a nofelau serch i lyfrau llawn hiwmor a straeon byrion. Mae’r ŵyl yn tynnu sylw at y cyfleoedd di-ri i fwynhau darllen yn Gymraeg.

Dyma’r ail flwyddyn i ni gynnal yr ŵyl. Gallwch fwynhau digwyddiadau Gŵyl Ddarllen Amdani 2021 yma

Diolch i'n partneriaid – Eisteddfod Genedlaethol CymruCyngor Llyfrau CymruGolwg 360BBC Radio Cymru/Cymru Fyw.

Gig Gŵyl Dewi 

Dych chi'n gallu gwrando ar recordiad o berfformiad arbennig y cerddor a’r cyfansoddwr, Robat Arwyn ar ein tudalen Facebook ac ar ein sianel YouTube. Mwynhewch!

Clwb darllen cenedlaethol a ioga cadair 

Dyma recordiad o'r clwb darllen cenedlaethol a'r ioga cadair. Dych chi'n gallu gwylio'r ddau recordiad ar ein sianel YouTube hefyd. 

Fy hoff lyfr - beth yw eich hoff lyfr Cymraeg chi?  

Cliciwch yma i weld fideos ‘Fy hoff lyfr’ gan rai o’n dysgwyr ni...

Cliciwch yma i weld fideos ‘Fy hoff lyfr’ gan rai o’n cyfranwyr ni...

Podlediad 

Gwrandewch ar Jo Heyde yn holi’r awdur, Caryl Lewis yma

Straeon newydd i ddysgwyr

Cliciwch ar y teitlau isod i ddarllen straeon newydd sbon i ddysgwyr gan Pegi Talfryn a Lleucu Roberts.

‘Y Llyfr’ gan Pegi Talfryn – fersiwn y de a fersiwn y gogledd ar gael

Y Llyfr’ gan Lleucu Roberts

 

Cystadleuaeth ysgrifennu stori Amdani

Diolch yn fawr i bawb wnaeth gymryd rhan yn ein cystadleuaeth ysgrifennu stori.

Cafwyd cefnogaeth wych i’r gystadleuaeth ac roedd y safon yn ôl y beirniaid, Lleucu Roberts a Pegi Talfryn yn arbennig o uchel.

’Dyn ni wedi rhoi’r straeon buddugol yma felly ewch ati i’w darllen a mwynhewch!

Cystadleuaeth

Rhestr ddarllen i ddysgwyr gan Gyngor Llyfrau Cymru

Mae Cyngor Llyfrau Cymru wedi cyhoeddi rhestr ddarllen i ddysgwyr.  Mae copi o’r rhestr ar gael yma.

Cliciwch yma i weld llyfrau o'r gyfres Amdani. 

Mwynhau darllen llyfrau Cymraeg gyda’ch plant – canllaw i ddysgwyr Cymraeg

Mae’r canllaw yma yn rhestru llyfrau Cymraeg dych chi’n gallu eu darllen gyda’ch plant.  Cliciwch yma i ddarllen y canllaw.

Beth i'w ddarllen? Cliciwch isod am syniadau...

Siopau Llyfrau Cymraeg

Defnyddiwch y map yma i ddod o hyd i siop lyfrau Cymraeg yn eich ardal chi.