Nant Gwrtheyrn
Cyrsiau dysgu dwys gyda’r Nant
Nant Gwrtheyrn yw’r ganolfan iaith a threftadaeth enwog ym Mhen Llŷn. Mae dewis o gyrsiau dwys, gan gynnwys rhai preswyl a rhithiol, yn cael eu cynnig yn y Nant.
Mae cyrsiau ar gael ar wahanol lefelau dysgu, o ddechreuwyr i ddysgwyr a siaradwyr Cymraeg profiadol.
Mae’r cyrsiau yn ffordd wych o ymarfer, adolygu ac adeiladu hyder i siarad a mwynhau’r Gymraeg. Gallwch ddod o hyd i gwrs yn Nant Gwrtheyrn yma, neu am fwy o wybodaeth am y Nant, ewch i’w gwefan.
