Os wyt ti'n awyddus i ddysgu ar dy gyflymder dy hun, ac yn dy amser dy hun, dyma'r cwrs delfrydol i ti.
- Ar gael ar lefel Mynediad neu Sylfaen (a bydd lefel Canolradd ar gael yn ystod 2023)
- Pob lefel cyfwerth â 120 awr o ddysgu annibynnol
- Deunyddiau cwrs i gyd ar-lein yn dy gyfrif personol
- Sesiynau Adolygu Rhithiol - mewn grŵp a gyda thiwtor
- Sesiynau Sgwrsio Rhithiol - cyfle i gwrdd ag eraill ar yr un lefel am sgwrs anffurfiol
- Cefnogaeth tiwtor dros ebost
- Cefnogaeth tiwtor unigol os oes angen
- Wedi'i ariannu'n llawn
Mae'r cyrsiau hunan-astudio ar-lein yn dilyn yr un cwricwlwm â chyrsiau prif ffrwd y Ganolfan, sy'n golygu byddi di'n dysgu yr un patrymau â dysgwyr ar gwrs yn y gymuned. Yn ychwanegol, mae'r cyrsiau hyn yn ddelfrydol ar gyfer paratoi at fyd gwaith, gan fod y cynnwys wedi'i deilwra at bwrpas gwaith.