Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cwrs arbennig yn cyfuno Dysgu Cymraeg â gweithgareddau awyr agored

Cwrs arbennig yn cyfuno Dysgu Cymraeg â gweithgareddau awyr agored

Am y tro cyntaf ers cyn y cyfnod clo, bydd cwrs Dysgu Cymraeg arbennig yn cael ei gynnal yng Ngwersyll yr Urdd, Glan-llyn rhwng 29 Ebrill – 1 Mai, 2022.

Bydd y cwrs yn gyfle i ddysgwyr ar lefelau Sylfaen + i gael eu trochi yn yr iaith Gymraeg, tra’n dysgu mwy am ardal y Bala a mwynhau rhai o weithgareddau awyr agored y Gwersyll, sy’n cynnwys hwylio, padl-fyrddio a chanŵio.

Mae’r Gymraeg i’w chlywed yn naturiol yn y Bala a Llanuwchllyn, sef y dref a’r pentref agosaf at y Gwersyll.  Mae holl staff y Gwersyll yn siarad Cymraeg, a bydd tiwtoriaid Dysgu Cymraeg wrth law i arwain y gweithgareddau.

Meddai un o drefnwyr y cwrs, Eirian Conlon, sy’n gweithio i’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “’’Dan ni’n hynod o falch ein bod yn gallu cynnig y cwrs yma unwaith eto yng Nglan-llyn.  Mae’n gyfle arbennig i ddysgwyr fwynhau siarad Cymraeg efo staff, pobl leol a dysgwyr eraill. 

“Mae’r cwrs yn addas ar gyfer dysgwyr sy ar lefel Sylfaen, Canolradd, Uwch neu Gloywi gan y bydd y rhan fwyaf o’r sgyrsiau yn cael eu cynnal yn Gymraeg.

“Mi fydd ’na gyfle hefyd i fwynhau rhai o weithgareddau’r Gwersyll, fel canŵio, nofio yn y pwll a bowlio deg, gyda’r holl weithgareddau yn cael eu cynnal yn Gymraeg.

“Ac yn ystod y penwythnos, bydd pobol leol yn galw draw am sgwrs, a byddwn yn mynd i dafarn yr Eagles yn Llanuwchllyn i fwynhau’r awyrgylch naturiol Gymraeg.”

Mae’r cwrs yn costio £150 ac yn cynnwys ystafell sengl en-suite, y bwyd a’r holl weithgareddau. 

Dyddiad cau cofrestru yw y 4ydd o Ebrill, 2022.

Os oes cwestiwn gyda chi, cysylltwch â swyddfa@dysgucymraeg.cymru.