Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Cyfle am ysgoloriaeth gwerth £1,000 i Diwtoriaid Dysgu Cymraeg yfory

dysgu

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol wedi cyhoeddi y byddan nhw’n cynnig ysgoloriaethau gwerth £1,000 i alluogi myfyrwyr addysg uwch fynychu cwrs ddechrau Gorffennaf i’w cychwyn ar y daith i fod yn diwtoriaid Dysgu Cymraeg.   

Dyma fydd y tro cyntaf i’r Ganolfan gynnig cwrs o’r fath, a’r gobaith yw annog mwy o bobl ifanc i weithio yn y sector Dysgu Cymraeg, a’u cyflwyno i’r posibiliadau o gael gyrfa yn y maes addysg.  

Bydd y cwrs yn cael ei gynnal yng Nghaerdydd, 4 - 15 Gorffennaf, gyda dim ond lle i 14 arno. 

Yn ôl Efa Gruffudd Jones, Prif Weithredwr y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “’Dyn ni’n hynod o falch o allu cynnig y cyfle unigryw yma i fyfyrwyr sy’n astudio yng Nghymru a thu hwnt.  

“Bydd rhai o diwtoriaid mwyaf profiadol y sector Dysgu Cymraeg i oedolion yn hyfforddi ar y cwrs.  Mae’n cael ei gynnal yr un pryd â chwrs haf Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n golygu y bydd digon o dasgau ymarferol a chyfle i arsylwi tiwtoriaid yn dysgu.

“’Dyn ni’n croesawu ceisiadau gan fyfyrwyr o bob cefndir, ac yn edrych ymlaen at gynnig profiadau dysgu ac addysgu gwerthfawr iddynt.”

Yn ogystal â chynnig £1,000 o ysgoloriaeth, bydd y Ganolfan hefyd yn talu costau llety a chynhaliaeth i’r ymgeiswyr llwyddiannus, os oes angen.

Ychwanegodd Efa, “’Dyn ni eisiau gweld cyflenwad cyson o diwtoriaid newydd yn y maes, ac mae hwn yn gyfle gwych i fyfyrwyr gael blas ar waith allai gael ei wneud yn rhan amser tra’n datblygu gyrfa mewn maes arall neu fel gyrfa yn ei hun. 

“Gall myfyrwyr sy’n astudio unrhyw bwnc wneud cais – ’dyn ni’n chwilio am bobl gyda sgiliau cadarn yn y Gymraeg sy’n gallu ysbrydoli eraill i ddysgu a mwynhau siarad yr iaith.”

Dyddiad cau ceisiadau ar gyfer yr ysgoloriaeth yw 31 Rhagfyr, 2021 a bydd yr ymgeiswyr llwyddiannus yn cael eu hysbysu ddiwedd Ionawr 2022.

Mae mwy o wybodaeth am yr ysgoloriaeth i’w gweld yn: https://dysgucymraeg.cymru/tiwtoriaid/tiwtoriaid-yfory/

DIWEDD

Am fwy o wybodaeth, e-bostiwch swyddfa@dysgucymraeg.cymru.