Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Côr Cymry Gogledd America yn mentro ar daith o amgylch Cymru

Côr Cymry Gogledd America yn mentro ar daith o amgylch Cymru

Bydd Côr Cymry Gogledd America yn mentro ar daith o amgylch Cymru, ac yn perfformio mewn lleoliadau ar hyd a lled y wlad er mwyn dathlu penblwydd y côr yn 25 mlwydd oed.

Bydd y côr sydd â hanner cant o aelodau, sy’n cynnwys cantorion o dros 17 talaith yn America a thair talaith yng Nghanada, yn ymweld â Chymru rhwng 1-8 Gorffennaf, a hon fydd eu taith fwyaf o amgylch Cymru ers 2002.

Sefydlwyd y côr yn 1998 gan Mari Morgan yr arweinydd, sy’n hanu o Lanelli.  Cyn Covid-19, roedd y côr yn cyfarfod yn flynyddol, ond newidiodd popeth adeg y pandemig, fel yr eglura Mari;

‘‘Roedd 2020 yn flwyddyn wahanol iawn i’r arfer i ni fel côr!  Cyn hynny ro’n ni’n dod at ein gilydd unwaith y flwyddyn, ac unwaith y tymor ar lefel ranbarthol.  Ond pan ddaeth Covid-19, ro’n i’n cyfarfod bron bob wythnos i ganu a chryfhau’r gymdeithas o fewn y côr.’’

Mae’r cantorion yn cynnwys disgynyddion i fewnfudwyr o Gymru, ac mae dros hanner y côr yn dysgu Cymraeg ers Medi 2020.  Maen nhw’n cyfarfod bob wythnos ar-lein, ac yn dysgu am ddiwylliant a barddoniaeth Cymru, yn ogystal â dysgu Cymraeg llafar, gan gynnwys ynganu a phatrymau iaith sylfaenol, wedi eu seilio ar y cwrslyfrau sy wedi eu datblygu gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Lisa Hopkins yn byw yn Pennsylvania, ond mae ei theulu’n hanu o Gymru.  Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac mae hi bellach yn diwtor Dysgu Cymraeg;

‘‘Ro’n i eisiau dysgu Cymraeg er mwyn deall mwy am fy nhreftadaeth.  Hefyd, mae gallu darllen Cymraeg yn rhoi mwy o ystyr i ganeuon ac emynau Cymraeg.  Dw i wedi bod yn dysgu cwrs lefel Mynediad i ddechreuwyr ers dwy flynedd.  Mae’n braf gweld cariad y criw tuag at y Gymraeg.  Mae gweld hyder y dysgwyr yn datblygu wrth siarad Cymraeg yn rhoi boddhad mawr i mi.’’

Mae Allison LaPointe, o St Paul, Minnesota, yn dysgu Cymraeg ers tair blynedd.  Mae hi’n edrych ymlaen at y daith, ac at ymweld â gogledd Cymru yn arbennig.

Meddai Allison;

‘‘Dw i’n gyffrous iawn bod y daith yn dechrau yng ngogledd Cymru, achos mae fy nheulu yn hanu oddi yno.  Mi wnaeth fy hen daid symud i Utica, Efrog Newydd o’i gartref yn Nyffryn Ardudwy, gogledd Cymru.  Dyma fy nhaith gyntaf i Gymru, felly mi fydd yn dipyn o brofiad.’’

Am fwy o wybodaeth am y daith, ewch i wefan y côr - corcymrygogleddamerica.com