Holi Daniel
Yma, ’dyn ni’n holi Daniel Blower, sy’n dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Sir Gâr. Mae Daniel yn dysgu ar lefel Sylfaen, ac mae wedi teithio i Qatar er mwyn cefnogi tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd fis yma.
Ers pryd wyt ti’n cefnogi tîm pêl-droed Cymru?
Ers blynyddoedd. Dw i’n cofio mynd i weld fy ngêm gyntaf gyda ffrindiau, Cymru yn erbyn y Weriniaeth Siec yn 2002.
Beth yw dy obeithion (hopes) ar gyfer Cymru yn Qatar?
Dw i’n edrych ymlaen yn fawr a dw i’n gobeithio y bydd Cymru yn cyrraedd yr 16 olaf.
Wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg pan wyt ti’n dilyn tîm pêl-droed Cymru?
Ydw, drwy'r amser. Mae fy ffrindiau sy’n gwylio pêl-droed gyda fi yn siarad Cymraeg a dw i’n clywed llawer o bobl yn siarad Cymraeg yn y tafarnau hefyd.
Wyt ti wedi dysgu’r geiriau i Yma o Hyd?
Bron iawn. Dw i'n dal i ddysgu’r geiriau ar hyn o bryd ond bydda i wedi dysgu’r gân erbyn Cwpan y Byd. (Gallwch fwynhau dysgu Yma o Hyd ar y dudalen yma: Yma o Hyd | Dysgu Cymraeg).
Beth ydy’r cam nesaf gyda’r Gymraeg?
Dw i’n gobeithio dilyn y cwrs lefel Canolradd y flwyddyn nesaf.
Pam wnest ti benderfynu dysgu?
Gwnes i ddechrau dysgu 18 mis yn ôl er mwyn siarad Cymraeg gyda ffrindiau. Dw i hefyd eisiau i fy mhlant siarad Cymraeg.
Beth ydy’r peth gorau am ddysgu Cymraeg?
Dw i nawr yn gallu siarad iaith arall.
Unrhyw gyngor i bobl eraill sy eisiau dechrau dysgu Cymraeg?
Daliwch ati a pheidiwch â rhoi’r gorau iddi!
Llun: Daniel yn Rotterdam ar gyfer gêm Cymru yn erbyn yr Iseldiroedd yn ystod Mehefin 2022.