Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Enwebiadau ar agor ar gyfer Tlws y Tiwtor 2023

Enwebiadau ar agor ar gyfer Tlws y Tiwtor 2023

Mae enwebiadau ar agor ar gyfer Tlws y Tiwtor 2023.

Mae’r wobr yn cael ei rhoi gan y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol i diwtor Cymraeg sydd yn, neu wedi gwneud, cyfraniad arbennig i’r sector Dysgu Cymraeg.

Bydd y tlws yn cael ei gyflwyno ym Maes D yn Eisteddfod Genedlaethol Llŷn ac Eifionydd ddydd Sadwrn 5 Awst a gofynnir i’r enillydd fod yn bresennol.

Meini prawf

Dych chi’n adnabod tiwtor sy’n ysbrydoliaeth ac sy’n deilwng o Dlws y Tiwtor 2023?

I enwebu tiwtor, llenwch y ffurflen yn electronig neu ei hargraffu a’i phostio atom gan nodi’r wybodaeth ganlynol:  

  • Pam dych chi’n enwebu’r person yma?
  • Beth sy’n arbennig am y person?
  • Sut mae wedi ysbrydoli dysgwyr a/neu diwtoriaid eraill?
  • Nodwch dri gair i’w (d)disgrifio

Mae’r ffurflen gais ar gael ar y dudalen yma a’r dyddiad cau ar gyfer derbyn enwebiadau yw 30 Mehefin 2023. Os oes cwestiwn gyda chi, mae croeso i chi gysylltu gyda swyddfa@dysgucymraeg.cymru.

Cefndir   

Ers Eisteddfod Genedlaethol Llanelli a'r Cylch yn 2000, mae tlws wedi cael ei roi i gydnabod cyfraniad arbennig gan diwtor yn y sector Dysgu Cymraeg, a hwnnw er cof am Elvet Thomas a’i wraig, Mair Elvet Thomas. Yn ystod ei amser fel athro yn Ysgol Cathays, Caerdydd, ysbrydolodd Elvet Thomas genedlaethau o ddisgyblion, y mwyafrif o gartrefi di-Gymraeg, i ddysgu’r iaith Gymraeg yn rhugl. Sefydlodd Adran o’r Urdd yn yr ysgol yn y 1920au ac fe gofleidiodd holl weithgareddau’r mudiad yn ystod y cyfnod hwnnw.

Gair gan Helen Prosser

Meddai Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol, “Mae Tlws y Ganolfan Dysgu Cymraeg i Diwtoriaid yn gyfle i gydnabod cyfraniad arbennig gan unigolyn. Mae tiwtoriaid yn gwbl allweddol yn y broses ddysgu ac yn aml yn mynd yr ail filltir i sicrhau bod eu dysgwyr yn cael pob anogaeth i ddysgu a defnyddio’r Gymraeg. Rydyn ni’n ddiolchgar iawn i Rhiannon Gregory a’r diweddar Havard Gregory am noddi tlws yn y gorffennol ac mae’r Ganolfan eisiau parhau â’r gwaith da trwy gyflwyno Tlws newydd.”

Rhestr enillwyr Tlws Coffa Elvet a Mair Elvet Thomas

Mae nifer o diwtoriaid wedi derbyn y tlws dros y blynyddoedd. Dyma restr o’r holl gyn enillwyr:

Llanelli 2000 - Chris Rees

Dinbych 2001 - Basil Davies

Tyddewi 2002 - Felicity Roberts

Meifod 2003 - Robina Ellis-Gruffydd

Casnewydd 2004 - Geraint Wilson-Price

Y Faenol 2005 - Elwyn Hughes

Abertawe 2006 - Elwyn Havard a Keith Rogers

Sir Fflint 2007 - Eirian Wyn Conlon

Caerdydd 2008 - Cennard Davies

Y Bala 2009 - Shirley Williams

Glyn Ebwy 2010 - Ken Kane

Wrecsam 2011 - Gwilym Roberts

Dinbych 2013 - Pam Evans-Hughes

Ynys Môn 2017 - June Parry

Caerdydd 2018 - Helen Williams

Llanrwst 2019 - Haydn Hughes