Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Yr Wyddor – llyfr gan Mark Hughes sy’n dysgu Cymraeg

Yr Wyddor – llyfr gan Mark Hughes sy’n dysgu Cymraeg

O ble wyt ti’n dod?

Ges i fy ngeni a fy magu yn Abertawe.

Pam oeddet ti eisiau dysgu Cymraeg?

Dw i wastad wedi credu dylwn i siarad Cymraeg gan mod i wedi fy ngeni a fy magu yma. Doedd fy rhieni ddim yn siarad Cymraeg, ond doeddwn i ddim yn deall pam es i i ysgol Saesneg achos roedd yr ysgol Gymraeg yn nes at adref. Dw i hefyd yn hoff iawn o’r Super Furry Animals, felly ro’n i eisiau deall caneuon Cymraeg y band heb orfod chwilio am gyfieithiad.

Sut/ble wnest ti ddysgu?

Mi es i i Dŷ Tawe yn Abertawe a holi am wybodaeth am gyrsiau. Mi wnaeth staff y siop ddweud wrtha i gysylltu gyda Dysgu Cymraeg Ardal Bae Abertawe. Mi nes i gofrestru a gorffen cwrs Mynediad dwys, astudio cwrs lefel Sylfaen y llynedd ac erbyn hyn dw i hanner ffordd drwy’r lefel Canolradd.

Pryd a ble wyt ti’n defnyddio dy Gymraeg?

Dw i’n gwisgo fy mathodyn ‘Dysgu Cymraeg.’ Ro’n i mewn tafarn yn ddiweddar a dechreuodd menyw siarad â fi wedi iddi adnabod y bathodyn. Roedd hi wedi stopio siarad Cymraeg ers rhai blynyddoedd ond newydd ddechrau dysgu eto. Bydden i ddim wedi siarad â hi oni bai am y bathodyn ond roedd cael sgwrs gyda pherson dieithr am y Gymraeg yn hollol wych. Dw i’n credu y dylai pob dysgwr sy’n dymuno siarad Cymraeg wisgo bathodyn ‘Dysgu Cymraeg.’

Ble ddechreuodd dy ddiddordeb di mewn tynnu lluniau?

Roedd gen i athro cefnogol iawn yn yr ysgol gynradd, oedd hefyd yn arlunydd. Ro’n i’n arfer tynnu lluniau o athrawon yr ysgol a byddai ef yn eu rhoi ar y wal y tu ôl i’w ddesg. Ro’n i hefyd yn hoff iawn o gartwnau ac yn recordio rhai ohonynt er mwyn gwasgu saib a cheisio darlunio beth oedd ar y sgrîn.

Pam penderfynu creu llyfr am yr wyddor Gymraeg?

Dw i wedi bod eisiau creu llyfr am yr wyddor Gymraeg ers tro ond nes i fyth orffen y dasg. Mi nes i ddangos rhai o’r darluniau gorffenedig i’m tiwtor cefnogol, Robin Campbell a bu’n ddylanwad mawr arna i wrth i mi barhau i orffen yr wyddor y tro yma. Wrth i mi greu mwy a mwy o ddarluniau, soniodd rhywun y dylwn i eu cyhoeddi mewn llyfr a dyna ddigwyddodd.

Dy hoff lyfr Cymraeg?

Dw i wedi darllen ‘Gangsters yn y Glaw,’ sef llyfr i ddysgwyr. Mae darllen tudalen a sylweddoli fy mod i’n deall y cyfan yn deimlad arbennig.

Dy hoff air Cymraeg?

Fy hoff air Cymraeg yw Hwntws, sef term sy’n disgrifio pobl sy’n dod o dde Cymru.

Cyngor i ddysgwyr?

Ewch i ddigwyddiadau lleol fel boreau coffi a Sadyrnau Siarad sy’n cael eu cynnal gan eich darparwr lleol. Dilynwch Dysgu Cymraeg a Siop Tŷ Tawe ar y cyfryngau cymdeithasol. Dw i’n aml yn meddwl beth yw geiriau Cymraeg am wahanol bethau wrth fynd am dro yn y parc, er enghraifft coed, blodau, llyn ayyb. Dw i’n credu bod hyn yn ehangu fy ngeirfa.

Disgrifia dy hun mewn tri gair

Diogyn rhan amser.

Gwybodaeth ychwanegol

Dych chi’n gallu prynu ‘Yr Wyddor’ gan Mark Hughes yma.

Cymerwch gipolwg ar y llyfr isod.