Gwybodaeth
Mae’r cyrsiau Dysgu Cymraeg ar gyfer y gweithlu chwaraeon wedi’u hariannu’n llawn.
Mae dewis o gyrsiau ar gael, gan gynnwys cyrsiau wedi’u teilwra ar gyfer y gweithlu chwaraeon a chyrsiau hunan-astudio.
Lefelau Dysgu Cymraeg
Mae cyrsiau ar gael ar lefelau dysgu gwahanol, sy'n addas ar gyfer dechreuwyr a dysgwyr profiadol:
- Mynediad (ar gyfer dechreuwyr)
- Sylfaen
- Canolradd
- Uwch
- Gloywi/Gwella
Mae mwy o fanylion, a fideos, ar gael ar y dudalen yma ac yn y Fframwaith Cymwyseddau Iaith.