Cwrs Uwch 1 - Rhan i a ii
Ynglŷn â'r cwrs
CWRS WYTHNOS – UWCH I RHAN 1 a 2
Dyma gyfle i ymarfer trafod pynciau a themâu o bob math. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando. Cwrs wedi ei gynnal dros Zoom.
Ar y cwrs rhithiol hwn, bydd yr elfennau hyn yn cael eu trafod:
•adolygu prif batrymau’r iaith
•cynnal sgwrs am y teulu, gwaith, diddordebau, ayb, ac ymateb yn briodol
•mynegi barn am bynciau llosg y dydd
•darllen, deall ac ymateb i erthyglau o bapurau newydd, papurau bro a chylchgronau
•trafod idiomau a diarhebion
•ehangu geirfa ac ymadroddion
Cymraeg fydd prif iaith gyfathrebu y cwrs hwn, er bod croeso i fyfyrwyr ddefnyddio Saesneg er mwyn deall agweddau mwyaf cymhleth yr iaith a’r ramadeg.
Mae cyrsiau Nant Gwrtheyrn yn gyrsiau atodol sydd â’u ffeiliau cwrs eu hunain. Mae’r cyrsiau hyn yn ategu’r cynnwys a ddysgir ar gyrsiau’r lefelau cenedlaethol a gynigir gan ddarparwyr prif ffrwd eraill, sy’n eu gwneud yn ddull effeithiol o gefnogi unrhyw weithgareddau dysgu eraill a wneir gan ddysgwyr o bob lefel. Yn ansicr ynghylch eich lefel neu eisiau gwybod mwy am addasrwydd ein cyrsiau i chi? Cysylltwch â ni am sgwrs anffurfiol: addysg@nantgwrtheyrn.org
(RHITHIOL)