Cwrs Sylfaen Rhan 1 a 2
Cyfeirnod:
C2122
Dosbarth Rhithiol Ar-lein
Sylfaen
CWRS WYTHNOS - SYLFAEN RHAN 1 a 2
Dyma gwrs dysgu-o-bell (dan ofal tiwtor ar-lein) sy’n adeiladu ar lefel Mynediad ac sy’n gofyn am rywfaint o brofiad o’r Gymraeg. Bydd y prif bwyslais ar siarad yr iaith, gyda chyfle i drafod pynciau pob dydd fel y teulu a ffrindiau, gwaith a diddordebau. Byddwch yn cwblhau dwy ran y lefel Sylfaen ar y cwrs hwn.
- adolygu’r amser gorffennol cryno
- sôn am ddigwyddiadau olynol: cyn i mi…, ar ôl i mi…
- dysgu yr amser amherffaith: roeddwn i
- dyddiadau
- defnyddio arddodiaid gyda berfau
- datblygu rhagenwau, e.e. dw i wedi ei ddarllen o/e; dw i eisiau ei gweld hi
- ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol
Bydd pawb sy’n cofrestru ar gyfer y cwrs hwn hefyd yn derbyn sesiwn ‘dal i fyny’ ar-lein gyda thiwtor.
Er y bydd y cwrs hwn yn cael ei ddysgu drwy gyfrwng y Saesneg ar y dechrau, yn raddol bydd y Gymraeg yn cymryd ei lle fel y brif iaith gyfathrebu.