Cwrs Mynediad Rhan 2
CWRS WYTHNOS - MYNEDIAD RHAN 2
Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn.
Parhad o’r cwrs ar gyfer dechreuwyr. Mae’r pwyslais ar siarad yr iaith.
•adolygu patrymau’r amser presennol
•dysgu’r amser perffaith: wedi
•meddiant, e.e. fy nghar i, dy gar di, ei gar o/e, ei char hi
•creu brawddegau yn y gorffennol syml, e.e. ‘Es i i Bwllheli ddoe’
•gofyn ac ateb cwestiwn yn y gorffennol syml
•mynegi eisiau neu angen
•ie / nage
•dysgu enwau rhannau’r corff
•ehangu geirfa ac ymadroddion defnyddiol
•ymweld ag atyniadau lleol
Dysgir y cwrs hwn drwy gyfrwng y Saesneg.
YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN?
Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 5 niwrnod (telerau dyddiol) am £125. Cysylltwch â ni i archebu.