Cwrs Uwch i - Rhan 1 a 2
CWRS WYTHNOS – UWCH I RHAN 1 a 2
Yn cynnwys gwersi a llety lluniaeth llawn.
Dyma gyfle i ymarfer trafod pynciau a themâu o bob math. Byddwch hefyd yn datblygu eich sgiliau darllen, ysgrifennu a gwrando.
•adolygu prif batrymau’r iaith
•cynnal sgwrs am y teulu, gwaith, diddordebau, ayb, ac ymateb yn briodol
•mynegi barn am bynciau llosg y dydd
•darllen, deall ac ymateb i erthyglau o bapurau newydd, papurau bro a chylchgronau
•trafod idiomau a diarhebion
•ehangu geirfa ac ymadroddion
•sgwrsio gyda thrigolion lleol
Cymraeg fydd prif iaith gyfathrebu y cwrs hwn, er bod croeso i fyfyrwyr ddefnyddio Saesneg er mwyn deall agweddau mwyaf cymhleth yr iaith a’r ramadeg.
YN BYW YNG NGWYNEDD NEU MÔN?
Cymerwch fantais o’n cynnig arbennig ar gyfer trigolion Gwynedd a Môn! Archebwch unrhyw gwrs 5 niwrnod (telerau dyddiol) am £125. Cysylltwch â ni i archebu.