Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Athrawes o’r Weriniaeth Tsiec yn hybu’r Gymraeg mewn ysgol yn Sir Benfro

Athrawes o’r Weriniaeth Tsiec yn hybu’r Gymraeg mewn ysgol yn Sir Benfro

Mae dysgwraig o’r Weriniaeth Tsiec, sy’n byw yn Sir Benfro erbyn hyn, yn dweud bod dysgu Cymraeg wedi agor drysau iddi, ac yn golygu ei bod hi’n teimlo’n rhan o deulu arall.

Symudodd Martina Roberts, sy’n siarad Tsiec, Saesneg ac ychydig o Almaeneg, i Brydain ddeunaw mlynedd yn ôl, a heddiw mae hi’n byw yn Noc Penfro gyda’i gŵr, Siôn sy’n siarad Cymraeg.

Ddwy flynedd yn ôl, cwblhaodd Martina’r cwrs sabothol Cymraeg mewn Blwyddyn ar gyfer athrawon, ac mae bellach yn defnyddio’i Chymraeg yn ddyddiol yn ei swydd fel Athrawes Cyfnod Sylfaen a Chydlynydd yn Ysgol Gynradd Manorbier.

Ers cwblhau ei blwyddyn sabothol, mae Martina wedi cofrestru ar gwrs Dysgu Cymraeg wythnosol.  Ar hyn o bryd, mae’n dilyn cwrs lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Sir Benfro, sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Penfro ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Martina’n gweld eisiau ei theulu yn ôl yn y Weriniaeth Tsiec, ond fel yr eglura, mae’n teimlo fel pe bai’n perthyn i Gymru bellach;

‘‘Dw i’n colli fy nheulu ond maen nhw’n gefnogol iawn.  Maen nhw’n deall pam fy mod i’n teimlo bod angen i mi ddysgu Cymraeg, gan mai Cymru ydy fy nghartref i nawr.  Ers i mi ddechrau dysgu Cymraeg, dw i’n teimlo mod i’n perthyn i Gymru, a dw i eisiau defnyddio’r sgiliau dw i wedi eu dysgu i hyrwyddo’r iaith cymaint ag y galla i yn yr ysgol.’’

Bydd y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Dysgu Cymraeg yn rhad ac am ddim i bobl sy’n gweithio yn y sector addysg yng Nghymru ym mis Medi.  Mae Martina wedi mwynhau dysgu Cymraeg, a hoffai annog eraill i wneud yr un peth;

‘‘Ewch amdani, peidiwch â bod ofn gwneud camgymeriadau.  Manteisiwch ar bob cyfle i siarad, gwrando neu ddarllen Cymraeg.  Beth oedd yn gweithio i mi oedd gwneud nodyn o’r geiriau newydd yr oeddwn wedi eu dysgu’r diwrnod hwnnw, a’u darllen cyn i mi fynd i’r gwely.’’

Mae Martina wrth ei bodd yn defnyddio’i Chymraeg ym mhob sefyllfa, ac mae’n gweithio’n galed er mwyn cefnogi staff Ysgol Manorbier a datblygu dwyieithrwydd ar draws yr ysgol;

‘‘Dw i bob amser yn chwilio am gyfleoedd i ymarfer siarad Cymraeg.  Dw i bellach yn siarad Cymraeg gyda fy ngŵr a’i deulu, gyda staff a phlant yr ysgol yn ogystal â’r gymuned ehangach.  Megis dechrau fy nhaith i ddysgu Cymraeg oedd y cwrs sabothol, a dw i methu aros i weld lle fydd y Gymraeg yn mynd â fi nesaf!’’