Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgwraig yn ennill swydd fel tiwtor Dysgu Cymraeg a lle ar gynllun Tiwtoriaid Yfory

Dysgwraig yn ennill swydd fel tiwtor Dysgu Cymraeg a lle ar gynllun Tiwtoriaid Yfory

Mae menyw ifanc wnaeth ddechrau dysgu’r Gymraeg yn Hydref 2019, wedi derbyn swydd fel tiwtor Dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Gogledd Orllewin, sy’n cael ei gynnal gan Brifysgol Bangor ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Bydd Elinor Staniforth, sy’n dod o Gaerdydd, yn dechrau ar y gwaith rhan amser ym mis Medi, ond cyn hynny bydd yn ymuno gyda chriw o bobl ifanc ar gynllun Tiwtoriaid Yfory y Ganolfan Genedlaethol.

Mae Elinor yn un o 13 a fydd yn dilyn y cynllun hyfforddiant, sy’n cael ei gynnal i ddarpar diwtoriaid Dysgu Cymraeg ddechrau mis Gorffennaf.  Mae Elinor wedi syrthio mewn cariad gyda’r Gymraeg, ac mae hi’n astudio gradd Meistr mewn Cymraeg ac Astudiaethau Celtaidd ym Mhrifysgol Caerdydd, ble mae’n canolbwyntio ar gaffael iaith.

‘‘Pan wnes i ddechrau dysgu Cymraeg, ro’n i’n gwybod mod i wedi dod o hyd i’r pwnc cywir,’’ meddai Elinor.  ‘‘Mae dysgu Cymraeg wedi newid fy mywyd, a dw i eisiau i eraill gael yr un profiad â dw i wedi ei gael yn yr ystafell ddosbarth.  Dw i mor falch mod i wedi cael cynnig lle ar y cynllun, a dw i’n edrych ymlaen at ddysgu eraill.’’

Aeth Elinor i Ysgol Uwchradd Esgob Llandaf yng Nghaerdydd, ac astudiodd y Gymraeg ar gyfer TGAU.  Treuliodd Elinor dair blynedd yn astudio Celf yn Ysgol Gelf Ruskin, Prifysgol Rhydychen, a phenderfynu mynychu dosbarth Cymraeg ar ôl dychwelyd i Gaerdydd, er mwyn cyfarfod pobl, fel yr eglura;

‘‘Pan ddes i adref, roedd fy ffrindiau wedi gadael Caerdydd.  Ro’n i’n chwilio am swydd a ro’n i eisiau cyfarfod pobl, felly nes i benderfynu rhoi cynnig ar ddysgu Cymraeg.  Dyna’r peth gorau wnes i achos dw i wedi gwneud ffrindiau oes.  Pan aeth y dysgu ar-lein achos Covid-19, mi wnes i gyfarfod mwy o bobl.  Bu dysgu ar-lein yn ystod y pandemig o gymorth mawr i mi ac mae wedi bod yn hyfryd croesawu dysgwyr o bob cwr o’r byd i’r dosbarth.’’

O fis Medi 2022 ymlaen, bydd y Ganolfan Genedlaethol yn cynnig cyrsiau Cymraeg am ddim i bobl ifanc 18-25 oed.  Mae Elinor o’r farn fod treulio ychydig oriau'r wythnos yn dysgu Cymraeg yn werth chweil a byddai’n annog eraill i gymryd mantais o’r cynnig;

‘‘Ewch amdani.  Bydd dysgu Cymraeg yn edrych yn dda ar eich CV ac mi wnewch chi gyfarfod pobl mor ddiddorol.  Yn yr ysgol, doeddwn i ddim yn mwynhau dysgu ieithoedd, ond mae dysgu iaith yn bosib, dych chi angen amser ac amynedd.  Does dim angen i chi fod yn wych gydag ieithoedd, dim ond dal ati a pheidio â rhoi’r gorau iddi cyn cychwyn!’’