Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Dysgwraig yn parhau â’i thaith i ddod yn rhugl gyda chymorth ysgoloriaeth

Gosia Rutecka

Mae dysgwraig sydd yn wreiddiol o wlad Pwyl, ar ei thaith i ddod yn rhugl yn y Gymraeg yn sgil ei hymrwymiad i ddysgu’r iaith a gyda chymorth ysgoloriaeth gwerth £1,000.

Mae Gosia Rutecka, sy’n byw yn Nhrebanog, Rhondda Cynon Taf, wedi ennill ysgoloriaeth Dan Lynn James 2019 sy’n rhoi cymorth ariannol i unigolion sydd am wella eu Cymraeg a’i defnyddio yn eu bywyd bob dydd.

Fel rhan o’r ysgoloriaeth, mae Gosia’n treulio pedair wythnos ar gwrs dwys ym Mhrifysgol Aberystwyth, sydd wedi ei drefnu gan Dysgu Cymraeg Ceredigion, Powys a Sir Gâr, sydd yn darparu cyrsiau ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Gobaith Gosia ydy y bydd y cwrs yn gwella ei sgiliau ieithyddol;

‘‘Bydd byw’n gyfan gwbl trwy gyfrwng y Gymraeg am bedair wythnos yn siŵr o ddwyn ffrwyth felly gobeithio y byddaf yn ennill hyder fel fy mod yn newid o ddysgu’r Gymraeg i siarad yr iaith.’’

Symudodd Gosia i Gymru o Kraków, gwlad Pwyl 13 mlynedd yn ôl, a dechreuodd ddysgu Cymraeg yn 2015 gyda Dysgu Cymraeg Morgannwg, sy’n cael ei redeg gan Brifysgol De Cymru ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Penderfynodd Gosia a’i gŵr, Tomek anfon eu plant, Igor ac Ala i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr ardal oherwydd roeddent eisiau i’w plant fedru gwerthfawrogi diwylliant Cymru yn llawn a dysgu’r Gymraeg pan oeddent yn ifanc.

Mae cymryd rhan mewn gweithgareddau anffurfiol wedi chwarae rhan allweddol yn nhaith Gosia i ddod yn rhugl yn yr iaith.  Yn aml, mae’n mynychu boreau coffi a hyd yn oed nosweithiau gin a thonic, ond mae bod yn rhan o’r cynllun ‘Siarad’ wedi rhoi cyfleoedd arbennig iddi y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth.

Mae ‘Siarad’ yn dod â siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr at ei gilydd am 10 awr o sgwrsio’n anffurfiol mewn sefyllfa gymdeithasol.  Fel yr eglura Gosia, mae’r cynllun wedi ei galluogi i brofi a gwerthfawrogi diwylliant Cymru;

‘‘Mae Siarad wedi rhoi cyfle i mi ddefnyddio’r Gymraeg y tu hwnt i’r ystafell ddosbarth, mewn amrywiol sefyllfaoedd. Yn fuan iawn, mi wnes i ddechrau mynd i weld perfformiadau Cymraeg yn y theatr ac mi wnes i gymryd rhan yng ngŵyl Ar Lafar, yr ŵyl i ddysgwyr, am y tro cyntaf. Mae wedi rhoi digon o hyder i mi ddechrau sgwrs yn Gymraeg yn ogystal ag ateb yn Gymraeg pan fo rhywun yn siarad â mi. Felly nawr dw i’n gallu archebu darn o gacen lemwn yn y Gymraeg yn Yr Hen Lyfrgell, fy nghaffi lleol yn Porth, lle mae’r staff yn siarad Cymraeg - mae’r gacen lemwn honno’n werth yr ymdrech!’’

Er mwyn dod o hyd i gwrs neu am gyfleoedd i ymarfer eich Cymraeg, ewch i dysgucymraeg.cymru neu rhowch gynnig ar ein cyrsiau ar-lein sy’n rhad ac am ddim.