Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Ieithydd o Wlad Belg â’i fryd ar symud i Gymru

Ieithydd o Wlad Belg â’i fryd ar symud i Gymru

Mae dysgwr o Wlad Belg, wnaeth glywed yn yr ysgol bod yr ieithoedd Celtaidd i gyd ar drai, bellach yn siarad Cymraeg ac yn gobeithio symud i Gymru rhyw ddydd.

Mi wnaeth Tom Peeters sy’n byw yn Attenrode, ger Brwsel, glywed am y Gymraeg gyntaf yn yr ysgol.  Dywedodd ei athro wrtho bod y Gymraeg, a phob iaith Geltaidd arall ar drai, ac mai pobl hŷn yn unig mewn ardaloedd gwledig oedd yn ei siarad.  

Flynyddoedd yn ddiweddarach, cafodd ei ddenu at yr iaith ar ôl gweld Beibl Cymraeg mewn siop lyfrau yn Llundain.

Eglura Tom: ‘‘Yn yr ysgol, mi wnes i ddysgu Ffrangeg, Almaeneg, Iseldireg a Saesneg, ac un diwrnod, roedd rhaid i mi ysgrifennu erthygl am yr ieithoedd Celtaidd.  Ges i fy arwain i gredu bod y Gymraeg ar drai, tan i mi ddod ar draws y Beibl Cymraeg yma yn Llundain. 

“Dw i mor falch i mi wneud, achos ers hynny, dw i wedi dysgu bod diwylliant Cymraeg bywiog a chyffrous yn bodoli yng Nghymru, a bod fy athro yn anghywir.’’

Dechreuodd Tom ddysgu Cymraeg gyda Duolingo yn 2017.  Yn 2020, yn ystod y pandemig, ymunodd â chwrs Dysgu Cymraeg rhithiol.  Mae Tom bellach yn dysgu ar lefel Canolradd gyda Dysgu Cymraeg Y Fro, sy’n cael ei gynnal gan Gyngor Bro Morgannwg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mae Tom yn dod ar wyliau i Gymru bob haf, ac mae’n edrych ymlaen at ddychwelyd ganol mis Mehefin i sefyll ei arholiad Dysgu Cymraeg lefel Canolradd.

Meddai: ‘‘Ar ôl yr arholiad, dw i eisiau teithio i orllewin Cymru, er mwyn mynd i Dŷ Ddewi.  Dw i wedi ymweld â gogledd a de Cymru o’r blaen, felly dw i’n awyddus i ddarganfod yr hyn sy gan y gorllewin i’w gynnig.  Un o fy hoff lefydd ydy Castell Caerffili, yn enwedig ar fachlud haul.  Dw i hefyd yn hoff iawn o Gaernarfon, a ches i fy swyno wrth glywed criw o blant yn sgwrsio yn Gymraeg gyda’i gilydd yno un tro.’’

Mae Tom yn gwneud ei orau glas i ddefnyddio’r Gymraeg y tu allan i’r dosbarth, fel yr eglura: ‘‘Dw i wedi darllen nofelau Cymraeg i blant, llyfrau o gyfres Amdani, a fy ffefryn ydy Plygain Olaf, sef nofel dditectif sy wedi ei lleoli yn Sir Drefaldwyn.  Yn ddiweddar, dw i wedi prynu Gwyddoniadur Cymru yr Academi Gymreig, a dw i wedi dysgu llawer wrth ei ddarllen.  Fy nod ydy gallu darllen llyfrau Cymraeg heb ddefnyddio geiriadur.’’

Mae Tom hefyd yn gwylio S4C, gwrando ar BBC Radio Cymru ac mae’n mynychu Sadyrnau Siarad rhithiol er mwyn sgwrsio gyda dysgwyr eraill.  Llynedd, mi wnaeth ei ymweliad â Chymru gyd-daro â gŵyl Tafwyl, ac mae Tom eisiau ennill digon o hyder i fedru ymweld a deall popeth yn yr Eisteddfod Genedlaethol flwyddyn nesaf.

Ychwanegodd Tom: ‘‘Mi wnes i elwa llawer o ymweld â Tafwyl y llynedd, a dw i’n ysu i ymweld â’r Eisteddfod Genedlaethol er mwyn siarad Cymraeg drwy’r dydd bob dydd.  Fy nod yn y pendraw ydy ymddeol i Gymru pan ddaw’r amser, felly gwyliwch y gofod!’’