Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Merch o Rwsia yn syrthio mewn cariad â’r Gymraeg

Merch o Rwsia yn syrthio mewn cariad â’r Gymraeg

Mae merch 16 oed o Rwsia wedi cael modd i fyw wrth ddysgu Cymraeg dros y naw mis diwethaf, er gwaetha’r ffaith nad oedd ganddi unrhyw gysylltiad â Chymru nag erioed wedi ymweld â’r wlad.

Cafodd Nastya Lisitsyna ei geni yn Smolensk, ac mae’n astudio’r Gwyddorau Naturiol yn Ysgol Economeg Lyceum ym Moscow.  Daeth ar draws y Gymraeg am y tro cyntaf ar Instagram a syrthio mewn cariad â’r iaith;

‘‘Mi wnes i benderfynu mynd ati i ddysgu sut i ynganu Llanfairpwllgwyngyllgogerychwyrndrobwllllantysiliogogogoch ar ôl clywed enw’r pentref mewn fideo dros yr haf.  Bu rhaid i mi ddysgu rheolau ynganu’r Gymraeg yn gyntaf ac mi wnes i lwyddo yn y diwedd!  Mi wnaeth hyn fy sbarduno i ddysgu’r Gymraeg ac mae’r profiad o ddysgu’r iaith yn dal i fy nghyffroi naw mis yn ddiweddarach.’’

Mae Nastya wedi defnyddio sawl ffynhonnell i’w chynorthwyo i ddysgu’r iaith, gan gynnwys cwrs Duolingo a llyfr ‘Teach yourself Welsh.’  Mae hefyd wedi cymryd rhan mewn Sadwrn Siarad, sef gweithdy ar-lein i ddysgwyr, sy’n cael ei drefnu gan Dysgu Cymraeg Sir Benfro, ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.

Mi wnaeth y gweithdy Sadwrn Siarad alluogi Nastya i gyfathrebu gydag eraill yn y Gymraeg am y tro cyntaf;

‘‘Roedd fy Sadwrn Siarad cyntaf yn brofiad cyffrous a diddorol dros ben.  Roedd cyfathrebu gydag eraill yn y Gymraeg o’r diwedd yn deimlad gwych.  Erbyn hyn, dw i’n cyfathrebu gyda phobl o Gymru yn gyson ar y we.  Mae gweld a chlywed pobl eraill ar blatfform fel Zoom, yn hytrach na darllen eu negeseuon, bron iawn yn teimlo fel sgwrs go iawn.’’

Mae Nastya yn dysgu ar-lein drwy’r dydd gan fod ei holl ddosbarthiadau yn yr ysgol yn cael eu cyflwyno ar-lein ers dechrau’r coronafeirws.  Mae rhai o’i chyd-fyfyrwyr yn yr ysgol a ffrindiau sydd ganddi ar draws Rwsia a Belarws wedi mynegi diddordeb mewn dysgu’r iaith ac maen nhw’n trafod y Gymraeg gyda’i gilydd ar-lein.

Er nad oes cymdeithas Gymraeg ym Moscow, gobaith Nastya yw y bydd hynny’n newid yn y dyfodol;

‘‘Hoffwn ddod o hyd i fwy o bobl sy’n dysgu Cymraeg ym Moscow ac o bosib eu cyfarfod rhyw ddydd.  Dw i’n dymuno rhannu fy niddordeb yn yr iaith ag eraill a sicrhau bod mwy o bobl Rwsia yn dod i wybod am y Gymraeg.  Dw i eisiau bod yn rhugl yn yr iaith a dysgu mwy am y wlad a’i diwylliant.  Gobeithio y bydd modd i mi ymweld â Chymru er mwyn ymarfer fy Nghymraeg yn y dyfodol agos!’’

Bydd cyrsiau Cymraeg ar gyfer pob lefel, o ddechreuwyr i siaradwyr mwy profiadol, yn dechrau fis Medi, gyda’r mwyafrif yn cael eu cynnal ar-lein, fel cyrsiau dysgu o bell, ar y dechrau.  Mae gostyngiad o 50% i bawb sy’n archebu eu lle ar gwrs cyn diwedd Gorffennaf.  Ewch i dysgucymraeg.cymru am fwy o wybodaeth.

Fideo: Nastya Lisitsyna o flaen Pont Zhivopisny ym Moscow