Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

‘Pwy gaiff e, tybed?’ Pâr o Geredigion yn darganfod nodyn yn dyddio nôl i 1960

Cafodd dau ddysgwr o Geredigion sioc wedi iddynt ddarganfod nodyn dan grisiau eu cartref newydd, oedd wedi’i adael gan yr awdur a’r postfeistr, y diweddar Trefor Griffiths.

Roedd Richard a Tracy Ward, sy’n dod o Lundain, wrthi’n adnewyddu cyn swyddfa bost Pontarfynach, pan ddaethon nhw o hyd i’r nodyn, yn dyddio nôl i 1960.  Mi wnaethon nhw benderfynu mynd â’r nodyn i’w dosbarth Dysgu Cymraeg, a gofyn i’r tiwtor ei gyfieithu.

Mae Richard a Tracy yn dilyn cwrs ar gyfer dechreuwyr gyda Dysgu Cymraeg Ceredigion- Powys-Sir Gâr sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Aberystwyth ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Mi wnaeth eu tiwtor, Zoe Pettinger, gyfieithu’r nodyn oedd yn dweud, ‘Pwy gaiff ef tybed?’

Llwyddodd y dosbarth Cymraeg i gysylltu gyda merch Trefor Griffiths, Nerys Hughes, sy’n byw yn Rhuthun.  Mi wnaeth hi gadarnhau bod ei thad wedi ysgrifennu llyfr am bobl Pontarfynach yn 1975, o’r enw Hapus Dyrfa.  Mae Richard, Tracy a gweddill y dosbarth yn edrych ymlaen at roi cynnig ar ddarllen y llyfr, a chroesawu Nerys i’r dosbarth rhyw ddydd.

Roedd Nerys wrth ei bodd bod y nodyn wedi cyrraedd y dosbarth, ac mae’n bwriadu ymweld â nhw’n fuan.  Meddai:  ‘‘Fel teulu, ’dyn ni wrth ein bodd gyda’r stori.  Roedd gweld ysgrifen fy nhad ar y nodyn yn brofiad emosiynol ac arbennig iawn.  Da iawn chi Richard a Tracy am fynd â’r nodyn i’r dosbarth.  Dw i’n edrych ymlaen at sgwrsio gyda’r dosbarth am fy nhad, yr hen swyddfa bost a Phontarfynach nôl yn y 1960au.’’

Ychwanegodd eu tiwtor Zoe Pettinger:  ‘‘Mae wedi bod yn fendigedig gweld y dosbarth yn dangos cymaint o ddiddordeb yn y stori hon.  Dw i’n meddwl y byddai Trefor Griffiths yn falch iawn o ddeall bod y nodyn wedi cyrraedd 28 o ddysgwyr brwdfrydig ym Mhontarfynach!  Dw i’n edrych ymlaen at groesawu Nerys i’r dosbarth a chlywed yr hyn sydd ganddi i’w rannu gyda ni.’’

Symudodd Richard a Tracy Ward o Lundain i Bontarfynach ddwy flynedd yn ôl gan ddod i’r casgliad mai dysgu Cymraeg oedd y ffordd orau o fod yn rhan o fywyd y pentref.

Yn ôl Richard: ‘‘Ro’n i eisiau bod yn rhan o’r gymuned, felly roedd dechrau dysgu Cymraeg yn benderfyniad hawdd.  ’Dyn ni nawr yn siarad Cymraeg gyda chymdogion, dw i’n ymwneud gyda’r cyngor cymuned, ac mae Tracy’n cynnal gweithdai gwnīo ac yn gweithio yn Sarah Bunton, sef y siop siocled leol.’’

Bydd cyrsiau Dysgu Cymraeg newydd yn dechrau ym mis Medi.  Am fwy o fanylion ewch i dysgucymraeg.cymru

Lluniau: y dosbarth dysgu Cymraeg ym Mhontarfynach, Tracy a Richard Ward a'r nodyn gan Trefor Griffiths.