Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Seiclwr beic un olwyn yn dysgu Cymraeg ac yn trawsnewid ei fywyd ar ôl ymweld â’r Antartig

Seiclwr beic un olwyn yn dysgu Cymraeg ac yn trawsnewid ei fywyd ar ôl ymweld â’r Antartig

Mae cyn weithiwr gydag Arolwg yr Antartig bellach yn byw ac yn magu ei deulu drwy’r Gymraeg, ac mae hyd yn oed wedi sefydlu clwb hoci beic un olwyn dwyieithog yng Nghaerdydd.

Ben Tullis hoci

Mi wnaeth Ben Tullis, sy'n wreiddiol o Hastings, ac sydd bellach yn gweithio i wefan Open Corporation Cyf, gyfarfod ei wraig, Nerys, ar fwrdd llong tra'n teithio i'r Antartig lle roedd hi'n gweithio fel meddyg, ac fe benderfynodd Ben drawsnewid ei fywyd yn llwyr;

‘‘Mi wnaethon ni syrthio mewn cariad tra'n teithio yn yr Antartig, ac ar ôl i mi ddychwelyd at fy nghwch bychan yng Nghaergrawnt, lle roeddwn yn byw ar y pryd, roeddwn yn gwybod bod rhaid i mi ddod i benderfyniad a fyddai'n newid cwrs fy mywyd yn llwyr. Mi wnes i ddilyn fy nghalon, symud i Gymru a dechrau dysgu Cymraeg. Yn ffodus, mi gytunodd Nerys i fy mhriodi y flwyddyn ganlynol!’’

Mae Ben ar hyn o bryd yn mynychu cwrs dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Caerdydd, sy’n cael ei drefnu gan Brifysgol Caerdydd ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol. Mae Ben yn benderfynol o barhau i ddysgu am gymaint o amser ag sy'n bosibl;

‘‘Mae Nerys a finnau'n siarad Cymraeg gartref gydag Eirwen sy'n bump a Mostyn sy'n dair oed, ac mae'r ddau yn mynychu Ysgol Melin Gruffydd yn ardal Yr Eglwys Newydd o'r ddinas. Mae'r plant wrth eu boddau'n fy nghywiro pan fyddaf yn gwneud camgymeriadau, felly mae'n rhaid i mi ddyfalbarhau er mwyn i mi siarad Cymraeg yn gwbl rugl fel fy mod yn medru cyfathrebu efo nhw!'’

Mae sefydlu clwb hoci beic un olwyn dwyieithog wedi galluogi Ben, a'i gydchwaraewyr i ymarfer eu sgiliau ieithyddol y tu allan i'r ystafell ddosbarth.  Mae hoci beic un olwyn wedi bod yn un o brif ddiddordebau Ben ers ei fod yn fachgen yn ei arddegau yn Hastings.  Mae mwy a mwy o bobl wedi ymaelodi â Chlwb Hoci Beic Un Olwyn Caerdydd, ac mae llawer o ddysgwyr wedi ymuno â'r clwb dros y blynyddoedd, ac i Ben y mae'r diolch am hynny.

Cred Ben mai penderfynu dysgu Cymraeg yw un o'r penderfyniadau gorau y mae erioed wedi eu gwneud, ac mae'n annog unrhyw un sy'n ystyried dysgu'r iaith i roi cynnig arni;

‘‘Unwaith dych chi'n dechrau dysgu, wnewch chi ddim difaru! Defnyddiwch yr iaith pryd bynnag a lle bynnag y medrwch chi, achos wrth ymarfer eich sgiliau bydd eich hyder yn cynyddu. Byddaf yn siŵr o ddefnyddio'r sgiliau ieithyddol dw i wedi eu dysgu am weddill fy mywyd, a byddaf yn fythol ddiolchgar i'r iaith Gymraeg am yr hyn y mae wedi ei roi i mi.’’

Er mwyn dod o hyd i gwrs neu am gyfleoedd i ymarfer eich Cymraeg, ewch i dysgucymraeg.cymru neu rhowch gynnig ar ein cyrsiau ar-lein sy’n rhad ac am ddim.