Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Teulu cerddorol yn cofleidio’r Gymraeg yn Y Barri

Teulu cerddorol yn cofleidio’r Gymraeg yn Y Barri
Teulu cerddorol

Mae cwpl sydd wedi cyfarfod tra’n astudio Cerddoriaeth yn Yr Almaen wedi manteisio ar bob cyfle posib i ddysgu’r Gymraeg ers symud i’r Barri, ac maent bellach yn siarad Cymraeg gyda’i gilydd bob dydd.

Cyfarfu Sonia a Mathias Maurer yng Ngholeg Cerdd Saarbruecken yn Yr Almaen, lle roeddent yn astudio’r ffidil a’r feiola.  Mi wnaethon nhw benderfynu symud i’r Barri wedi i rieni Sonia, sydd yn wreiddiol o Gymru, ddychwelyd i’r ardal ar ôl treulio llawer o flynyddoedd yn byw yn Lloegr.  

Mae tad Sonia, Bernard van Lierop, yn dysgu Cymraeg gyda Dysgu Cymraeg Y Fro, sy’n cael ei weinyddu gan Gyngor Bro Morgannwg ar ran y Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol.  Dysgodd Sonia Gymraeg i ddechrau gyda’r gwasanaeth ar-lein Say Something in Welsh, ac mae wedi elwa ar gyrsiau sydd wedi eu trefnu gan y Ganolfan Genedlaethol.  Mae Mathias newydd gwblhau cynllun sabothol Cymraeg mewn Blwyddyn ar gyfer athrawon ym Mhrifysgol Caerdydd.

Penderfynodd y cwpl anfon eu plant i ysgolion cyfrwng Cymraeg yn yr ardal ac mae Steffi, 12, yn mynychu Ysgol Gyfun Bro Morgannwg ac mae Annabel, 9, yn mynychu Ysgol Gynradd Sant Baruc.  Fel yr eglura Sonia, mae’r teulu’n siarad tair iaith adref;

‘‘Dyn ni’n siarad Cymraeg bob dydd fel teulu, yn ogystal â Saesneg ac ychydig o Almaeneg. Gan mod i a Mathias yn siarad Cymraeg yn rhugl bellach, mae’n braf nad oes gan y plant iaith gyfrinachol eu hunain! Wrth ymweld â’r Almaen, ’dyn ni’n cael llawer o hwyl yn siarad Cymraeg achos does neb yn gwybod o ble ’dyn ni’n dod!’’

Sonia Maurer

Mae cerddoriaeth yn chwarae rhan bwysig yn eu bywydau ac mae’r pump yn chwarae ac yn perfformio’r ukelele mewn band o’r enw Y Sanau Drewllyd.  Mae Annabel hefyd yn canu’r delyn ac enillodd Steffi’r wobr gyntaf am ganu’r unawd ar y gitâr yn Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd 2018.  Mae Mathias yn gyn aelod o gerddorfa Cwmni Opera Genedlaethol Cymru ac roedd Sonia hefyd yn chwarae gyda’r gerddorfa yn achlysurol.

Ers symud i Gymru, maen nhw wedi mwynhau gweithgareddau Cymraeg ac maent wedi ymuno â’r gymuned leol trwy gefnogi gwyliau fel Tafwyl a Gŵyl Fach y Fro.  Ar ôl wythnos yn gwersylla yn yr Eisteddfod Genedlaethol ym Môn ddwy flynedd yn ôl, mi wnaethant benderfynu gwersylla eto yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Conwy wythnos diwethaf.

Mae Bernard hefyd wedi manteisio ar bob cyfle i ymarfer ei Gymraeg mewn awyrgylch anffurfiol.  Mae’n mynychu boreau coffi wythnosol yng Ngwenfô ac mae wedi ymuno â’r cynllun 'Siarad', cynllun sy’n dod â siaradwyr Cymraeg rhugl a dysgwyr at ei gilydd am 10 awr o sgwrsio mewn awyrgylch gymdeithasol. 

‘‘Dw i’n teimlo’n ffodus mod i wedi gwneud llawer o ffrindiau drwy’r cynllun Siarad a boreau coffi, a fy nod ydy parhau i ddysgu er mwyn dod i ddeall barddoniaeth Gymraeg. Dewch o hyd i weithgareddau dych chi’n mwynhau eu gwneud trwy gyfrwng y Gymraeg ac wedyn bydd yr iaith yn datblygu’n naturiol!’’

Bernard van Lierop

Er mwyn dod o hyd i gwrs neu am gyfleoedd i ymarfer eich Cymraeg, ewch i dysgucymraeg.cymru neu rhowch gynnig ar ein cyrsiau ar-lein sy’n rhad ac am ddim.