Skip to main content

Mae’r wefan hon yn defnyddio cwcis i’w wneud yn symlach.

Dysgwch mwy am gwcis. Iawn

Apêl am siaradwyr Cymraeg i sgwrsio gyda dysgwyr

Apêl am siaradwyr Cymraeg i sgwrsio gyda dysgwyr

Mae’r Ganolfan Dysgu Cymraeg Genedlaethol yn chwilio am siaradwyr Cymraeg i ymuno yn eu cynllun ‘Siarad’, sy’n paru siaradwyr Cymraeg gyda dysgwyr.

Mae cannoedd o ddysgwyr ledled Cymru eisoes yn rhan o’r cynllun, ac wedi eu paru, ond mae cannoedd mwy ar restr wrth gefn, yn aros i gael eu paru.

Nod y cynllun ydy rhoi cyfle i ddysgwyr fagu hyder trwy sgwrsio trwy gyfrwng y Gymraeg a’u cyflwyno i gyfleoedd i ddefnyddio eu Cymraeg yn lleol.

Un o’r siaradwyr sydd wedi bod yn rhan o’r cynllun ers blynyddoedd yw’r gyflwynwraig deledu Branwen Gwyn, sydd wedi’i pharu gydag Angela Yeoman.

Dywedodd, “Y rheswm nes i ymuno yn y cynllun oedd am fy mod i eisiau helpu pobl i ddysgu Cymraeg. Mae’n gyfle gwych i gynyddu’r nifer o bobl sy’n hyderus yn eu Cymraeg.

“Mi oeddwn i’n hapus iawn o gael fy mharu gydag Angela. Mae hi’n siarad Cymraeg mor dda, er nad ydy hi’n sylweddoli hynny’n llawn!  Mi oedd y sgwrs mor rhwydd fel bod awr yn hedfan yn ei chwmni. Mae’n berson mor hapus a byrlymus.

“Mae’n bwysig cofio nad ydych chi yna i fod yn athro neu athrawes – dydy o ddim byd fel’na.  Jysd sgwrsio sydd angen ei wneud - ac os ydych chi awydd ymuno yn y cynllun, ewch amdani, pam lai?

“Mae’n grêt mynd i ddosbarth Dysgu Cymraeg, ond mae angen cynnig cyfleoedd i sgwrsio efo siaradwyr Cymraeg tu allan i’r dosbarth. Mi fyddwch chi’n gwneud gwaith gwerthfawr iawn yn helpu pobl fagu hyder yn eu Cymraeg.”

Ychwanegodd Angela Yeoman, “Yn syml, mae’r cynllun Siarad yn ffordd o ffeindio rhywun i helpu dysgwyr siarad gyda hyder.

“Cyn cychwyn y cynllun Siarad, ro’n i’n iawn yn siarad Cymraeg gyda dysgwyr eraill ond cyn gynted o’n i’n cyfarfod siaradwyr iaith gyntaf, doeddwn i ddim yn gyfforddus o gwbl yn siarad Cymraeg.

“Ond mae Branwen wedi gwneud i mi deimlo yn gartrefol o’r sesiwn gyntaf un – yn siarad am bethau fel y gath..mynd â’r car am MOT...pwy o’r teulu oedd efo Covid / yn hunan ynysu...pethau arferol bywyd!”

Mae’r dysgwyr sy’n cymryd rhan yn y cynllun yn dilyn cyrsiau lefel Canolradd, Uwch neu Gloywi sy’n golygu y gallan nhw gynnal sgwrs yn gyfforddus yn y Gymraeg.

Ychwanegodd Helen Prosser, Cyfarwyddwr Dysgu ac Addysgu’r Ganolfan Dysgu Cymraeg, “Wrth ddysgu unrhyw sgil newydd, mae angen ymarfer.  A dyw dysgu iaith ddim yn eithriad.

“Felly, roeddem ni eisiau rhoi cyfle i siaradwyr newydd sgwrsio rhwng gwersi ond hefyd eu cyflwyno i gyfleodd yn y gymuned i siarad Cymraeg.

“Rydym yn gofyn am ymrwymiad o 10 awr – ac mi all hynny fod tra’n sgwrsio dros baned, mewn gêm bêl-droed, yn y côr, wrth fynd am dro neu lle bynnag sy’n apelio.”

Mae galw am bobl ar draws Cymru ac mae modd cofrestru trwy ymweld â gwefan dysgucymraeg.cymru neu e-bostio swyddfa@dysgucymraeg.cymru

Llun: Angela Yeoman a Branwen Gwyn